Pobl Bannock
Map o diroedd lle'r oedd y Bannock yn draddodiadol yn byw | |
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | llwyth |
Poblogaeth | 89 person |
Rhagflaenydd | Paiute y Gogledd |
Rhanbarth | Neilldir Indiaidd Fort Hall |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o lwythi frodorol Gogledd America yw'r Llwyth Bannock, disgynyddion Paiute y Gogledd, yn wreiddiol, sydd a chysylltiadau diwylliannol â phobl Shoshone y Gogledd. Maent yn nosbarthiad y Basn Mawr o Frodorion Cynhenid. Ymhlith eu tiroedd traddodiadol mae gogledd Nevada, de-ddwyrain Oregon, de Idaho, a gorllewin Wyoming. Heddiw maent wedi'u cofrestru fel "Shoshone-Bannock" sy'n byw yn Neilldir Indiaidd Fort Hall, Idaho. Yng Nghyfrifiad 2010, nododd 89 o bobl eu bod yn tarddu o linach "Bannock", 38 "gwaed-llawn".
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae gan lwyth Paiute y Gogledd hanes hir o fasnachu gyda llwythau cyfagos. Yn y 1700au, roedd y grwpiau yn nwyrain Oregon yn masnachu gyda'r llwythau brodorol i'r gogledd,[1] a oedd erbyn 1730 wedi meistroli ac yn berchen ceffylau.[2] Yng nghanol y 18g, datblygodd rhai grwpiau ddiwylliant y ceffyl a gwahanu oddi wrth y gweddill, gan ddod yn 'llwyth Bannock'.[3] Rhoddodd y ceffyl y gallu iddynt deithio ymhellach ac yn gynt, o Oregon i ogledd Nevada,[4] de Idaho,[5] a gorllewin Wyoming .[3] Fe wnaethant deithio oddi yno ar Lwybr Bannock i Montana a Chanada i hela bual a byfflo.[6]
Yn draddodiadol mae'r Bannock wedi gwneud crochenwaith, offer o gyrn defaid mynydd, ac yn cario bagiau o groen eog. Mae eu petroglyffau'n dyddio'n ôl cyn i'r Ewropeiaid orchfygu eu gwlad, ac fe wnaethant drosglwyddo eu dyluniad geometrig i waith gleiniau gwydr. Ar gyfer cludiant dros ddŵr, gwnaethent rafftiau TULE allan o frwyn.[7] Cyn diwedd y 19g, roedd pobl Bannock yn pysgota am eog ar Afon Snake yn Idaho ac yn yr hydref, roeddent yn hela'r byfflo. Roedd crwyn y byfflo'n cael eu defnyddio ganddyn nhw i greu tipis.[8]
Mae'r Bannock yn amlwg yn hanes America oherwydd Rhyfel Bannock 1878. Ar ôl y rhyfel, symudodd y Bannockiaid i Neilldir Indiaidd Fort Hall, Idaho gyda llwyth y Northern Shoshone ac yn raddol unodd y ddau lwyth. Heddiw fe'u gelwir yn Shoshone-Bannock.
Yng Nghyfrifiad 2010, nododd 89 o bobl eu bod yn tarddu o linach "Bannock", 38 "gwaed-llawn". Mae 5,315 o bobl wedi'u cofrestru yn Llwythau Shoshone-Bannock yng Ngwarchodfa Fort Hall, ac mae eu dinasyddion i gyd wedi'u dynodi'n "Shoshone-Bannock".[9]
- Mary Jo Estep, athrawes gerddoriaeth elfennol a goroeswr Brwydr Kelley Creek
- Sally Young Kanosh, merch fabwysiedig Brigham Young, gwraig Kanosh
- Mark Trahant, newyddiadurwr
- Randy'L He-dow Teton, model
- LaNada War Jack, arweinydd Streiciau'r Trydydd Byd a Galwedigaeth Alcatraz, actifydd, gwleidydd llwythol, ac academydd [10]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Llwythau Shoshone-Bannock, Gwefan Swyddogol
- Rhestr o bobloedd Brodorol America yn yr Unol Daleithiau
- ↑ Pritzker 2000, t. 226.
- ↑ Haines
- ↑ 3.0 3.1 Pritzker 2000, t. 224.
- ↑ Kuiper, Kathleen, gol. (2011). American Indians of California, the Great Basin, and the Southwest. Britannica Educational Publications. t. 46. ISBN 9781615307128.
- ↑ Chisholm 1911.
- ↑ "History of the Shoshone-Bannock Tribes". www.shoshonebannocktribes.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-11. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2015.
- ↑ Pritzker 2000, t. 238.
- ↑ Pritzker 2000, t. 225.
- ↑ "2010 Census CPH-T-6. American Indian and Alaska Native Tribes in the United States and Puerto Rico: 2010" (PDF). www.census.gov. Archived from the original (PDF) on 9 December 2014. Retrieved 1 January 2015.
- ↑ Johnson, Troy R. (2009). "Boyer, LaNada (Means)". In Finkelman, Paul; Garrison, Tim Alan (gol.). Encyclopedia of United States Indian Policy and Law. Washington, D.C.: CQ Press. doi:10.4135/9781604265767.n77. ISBN 978-1-933116-98-3.